Lleoliad
O Gaernarfon :
I gyrraedd yno o gyfeiriad Caernarfon ar yr A499 ewch ymlaen , drwy bentref Llanaelhaearn a chario 'mlaen hyd nes y gwelir arwydd ffordd 'Llwyndyrys' . Os ydych wedi cyrraedd 'Y Ffôr' yna rydych wedi mynd yn rhy bell . Ar ôl cyrraedd y ffordd fach am Lwyndyrys rhaid dal i fynd arni am oddeutu 2-3 milltir . Heibio i gapel , heibio i giosg coch . Plas yw'r ail droead ar y dde ar ôl y ciosg coch.

O Borthmadog :
Dilyn yr A497 i gyfeiriad Cricieth , a chario 'mlaen a dilyn arwyddion am Chwilog . Trwy bentref Chwilog ac ymlaen tuag at y Ffôr . Yn Y Ffôr troi i'r dde yn y groesffordd a chario 'mlaen hyd nes y gwelir arwydd 'Llwyndyrys' Dilyn ymlaen wedyn heibio capel a Plas yw'r ail droead i'r dde ar ôl y cisog coch .

Gan Tudalen Newydd