Cysgu
Mae'r bwthyn yn cysgu 4, gan gynnwys un gwely dwbl a dau wely sengl. Gallwn hefyd gael cot ar eich cyfer os oes angen. Cofiwch roi gwybod i ni wrth archebu.
Coginio
Cegin gyflawn fodern, gyda Popty Ping, llestri ac offer coginio. Yn ogystal rydym wedi adeiladu BBQ ger yr afon.
Adloniant
Mae teledu a chwaraewr DVD yn y bwthyn ac cewch fenthyg DVDs, mae rhestr o'r ffilmiau ar gael yn y bwthyn. Cewch fenthyg ein beic tandem neu ein beiciau mynydd. Mae cysylltiad di-wifyr (wi-fi) i'r we yn rhad ag am ddim yn y bwthyn.
Manion Eraill
Mae'r bwythyn yn cael ei wresogi gan y ddaear felly does dim cost i chi. Byddwn yn darparu dillad gwely ac yn ogystal cewch ddefnyddio ein peiriant golchi dillad ni os oes angen.
|